Yn y cylchlythyr yma:
Cynllunwyr Gwasanaeth Cyfoed
Rydym yn recriwtio pobl ifanc 16-25 sydd yn byw ym Mlaenau Gwent,
Caerffili neu Torfaen i ymuno gyda ni fel Cynllunwyr Gwasanaeth Cyfoed.
Gwerthuswr Prosiect
Rydym yn chwilio am werthuswr medrus i weithio mewn partneriaeth â ni i werthuso ein prosiect pum mlynedd uchelgeisiol.
Cynllunwyr Gwasanaeth Cyfoed
Manylion y swydd
Roedd blwyddyn gyntaf ein prosiect, Meddwl Ymlaen Gwent (MYG) yn ymchwilio profiadau pobl ifanc o wasanaethau iechyd meddwl yng Ngwent.
Cyflogwyd 10 o ymchwilwyr cyfoed i helpu siarad gyda'u cyfoedion, dadansoddi data, dewis themâu allweddol, ac ysgrifennu adroddiad i rannu'r darganfyddiadau. Cyhoeddwyd ein Hadroddiad Darganfod yn fis Hydref 2023, yn cynnwys 7 prif fewnwelediad hoffem eu symud ymlaen i gam nesaf y prosiect.
Rydym yn edrych am bobl ifanc i ymuno â'r grŵp i helpu symud y prosiect yn ei flaen dros y flwyddyn nesaf.
Bydd Cynllunwyr Gwasanaeth Cyfoed ar flaen y gad yn esblygiad y prosiect MYG, yn trawsnewid y mewnwelediadau o'r cyfnod ymchwil yn ddatrysiadau gwirioneddol.ß
Gall tasgau gynnwys:
Ymchwilio i anghenion pobl ifanc yn dy gymunedau, yn seiliedig ar yr Adroddiad Darganfod
Cymryd rhan weithredol mewn grwpiau ffocws, sesiynau mapio meddwl, a gweithdai gyda dy gyfoedion, cydweithwyr a rhanddeiliaid
Rhwydweithio â phobl ifanc a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda nhw yn dy gymunedau
Datblygu prototeipiau gyda chymorth cyd-gynllunwyr a staff gwasanaethau cyfoed
Mynd i ddigwyddiadau preswyl i bobl ifanc a chyfarfodydd wyneb yn wyneb
Beth yw’r manteision i bobl ifanc?
Rhoi hwb i hyder drwy rannu dy lais a’th syniadau mewn lle diogel
Dylanwadu ar newid cadarnhaol mewn cymunedau ar draws Gwent
Gwaith rhan-amser, gyda chyfarfodydd rhithiol ac wyneb yn wyneb (fel arfer rhwng dydd Llun a dydd Mercher rhwng 3pm a 6pm)
Mynediad at gyfleoedd hyfforddi perthnasol i wella dy sgiliau a’th CV
Staff cefnogol sydd eisiau gweld ti’n ffynnu
Oddeutu 10 awr y mis ar gyfradd y Cyflog Byw Cenedlaethol (£12 yr awr)
Y Broses Ymgeisio
Gall pobl ifanc wneud cais wrth lenwi’r ffurflen hon.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 18fed Mawrth 2024.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyfweliadau a gynhelir dros Zoom ar 2il,
3ydd neu 11eg o Ebrill.
Gwerthuswr Prosiect
Manylion y swydd
Ydych chi’n werthuswr profiadol sy’n frwd dros gael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl pobl ifanc?
Mae MYG, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac yn cael ei arwain gan ProMo Cymru a Mind Casnewydd, yn dechrau ei ail flwyddyn yn 2024 gyda gweledigaeth i gynllunio atebion arloesol ar gyfer heriau iechyd meddwl ymysg pobl ifanc yng Ngwent.
Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar ganfod bylchau mewn gwasanaethau, adeiladu ar fentrau llwyddiannus, a datblygu dulliau newydd i gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc.
Amcanion Gwerthuso:
Arwain ein tîm staff wrth ddewis y dulliau gwerthuso gorau
Helpu i ddatblygu dogfennau gwerthuso mewnol i sicrhau bod data cynhwysfawr yn cael ei gasglu
Diffinio canlyniadau mesuradwy i ddangos tystiolaeth o lwyddiant y prosiect
Cefnogi’r gwaith o grynhoi astudiaethau achos ac adroddiadau monitro
Gwerthuso’r prosiect yn gyfannol a llunio adroddiad terfynol erbyn Hydref 2027
Cyflwyno Eich Cynnig
Rydym wedi dyrannu cyllideb o £5,000 y flwyddyn ar gyfer blynyddoedd 2, 3, 4 a 5.
Mae ceisiadau ar gyfer y swydd hon yn cau ar 18fed Mawrth 2024.
I gael manylion llawn am y cyfle hwn, darllenwch y briff llawn.
Rydym Eich Angen Chi
Os nad yw'r swyddi yma yn addas i chi, rhannwch gyda'ch rhwydweithiau o weithwyr proffesiynol a phobl ifanc os gwelwch yn dda!
I helpu, gallech chi:
Rannu'r e-bost yma gyda'ch rhwydweithiau
Postio am y swyddi ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol
Dweud wrth y bobl ifanc rydych chi'n gweithio’n uniongyrchol â nhw am y cyfle
Ei rannu all-lein, wrth argraffu copi o'r poster A4 a'i arddangos yn lleol
Cadwch gysylltiad!
Ariannir gan / Funded by
Cyflwynir gan / Delivered by
Partneriaid / Partners