Yn y cylchlythyr yma:
Cofrestrwch ar gyfer ein cyfarfod Rhanddeiliaid
Dydd Llun 3ydd Mehefin 2024
2:45 - 6:00 YH
Yn cyflwyno ein Cynllunwyr Gwasanaeth Cyfoed newydd
Mae 4 person ifanc arall o Went wedi cael eu recriwtio
fel Cynllunwyr Gwasanaeth Cyfoed.
Dysgwch am ein prototeipiau
Mae'r Cynllunwyr Gwasanaeth Cyfoed yn gweithio ar ddatblygu 4 prototeip yn seiliedig ar y mewnwelediadau yn ein hadroddiad darganfod.
Dewch i gwrdd â'n Gwerthuswyr Prosiect
Rydym wedi penodi dau werthuswr prosiect fydd yn gweithio mewn partneriaeth â ni ar werthusiad Meddwl Ymlaen Gwent.
Yn cyflwyno ein Cynllunwyr Gwasanaeth Cyfoed
Dewch i gwrdd â'r (ychwanegiadau newydd i'r) tîm!
Rydym wrth ein bodd yn cael 4 person ifanc brwdfrydig arall o ledled Gwent i ymuno â’n tîm o Gynllunwyr Gwasanaethau Cyfoed, gan godi cyfanswm ein grŵp i 12.
Rydym yn falch iawn i gael cyflwyno Evie, Izzy, Josephine, a Menna:
Evie
18
Tredegar
Roeddwn i eisiau bod yn rhan o brosiect Meddwl Ymlaen Gwent am ei fod yn canolbwyntio ar iechyd meddwl pobl ifanc.
Rwy’n teimlo’n angerddol dros gyfrannu at fentrau sy’n gweithio i wella cyfleusterau iechyd meddwl yn ein cymuned.
Izzy
17
Caerffili
Ymunais â Meddwl Ymlaen Gwent am fy mod wedi dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl fy hun ac roeddwn wir eisiau gweld newid mewn rhai agweddau o'r gofal a'r driniaeth.
Nid wyf wedi cael y profiadau gorau gyda'r gwasanaethau iechyd meddwl dros yr ychydig fisoedd diwethaf; o ddiffyg dealltwriaeth i wadu llwyr, mae wedi bod yn broses anodd ceisio cael mynediad i'r cymorth cywir.
Pan glywais am y cyfle i fod yn rhan o dîm Meddwl Ymlaen Gwent, cofrestrais ar unwaith.
Mae’n wirioneddol bwysig i mi fod y gwasanaethau iechyd meddwl yn briodol ar gyfer y bobl sy’n eu defnyddio, a dwi wir eisiau helpu wrth roi argymelliadau ac adborth fel bod gwasanaethau iechyd meddwl yn fwy addas ar gyfer y bobl sy’n eu defnyddio.
Josephine
16
Casnewydd
Roeddwn i eisiau gwella gwasanaethau iechyd meddwl yng Ngwent. Fel person ifanc sydd wedi cael mynediad at lawer o wahanol fathau o wasanaethau iechyd meddwl ledled Gwent, rwyf wedi gweld ei lwyddiannau ac wedi dioddef ei fethiannau ac rwyf am sicrhau y gall pobl ifanc y dyfodol gael mynediad i nifer o wasanaethau iechyd meddwl sydd wedi'u hadeiladu'n bwrpasol ar eu cyfer. Er bod camau mawr wedi’u cymryd o ran cynnwys lleisiau pobl ifanc yn y broses, nid yw’n ddigonol.
Roeddwn i wrth fy modd bod yn y cwrs preswyl yn 2023, er nad oeddwn yn rhan o’r prosiect ar y pryd (roeddwn yn Llysgennad Llesiant), roedd yn wych gweld mwy o leisiau pobl ifanc am wasanaethau iechyd meddwl ac mae wedi rhoi hwb mawr i mi i wella'r gwasanaeth.
17
Sir Fynwy
Roeddwn i eisiau bod yn rhan o Meddwl Ymlaen Gwent er mwyn gallu gwneud gwahaniaeth yn y ffordd mae pobl ifanc yn derbyn cymorth iechyd meddwl.
Menna
Prototeipiau
Mae'r Cynllunwyr Gwasanaeth Cyfoed yn datblygu 4 prototeip gan ddefnyddio'r mewnwelediadau a ddeilliodd o'r adroddiad darganfod.
Y rhain yw:
Prototeip 1
Ymgyrchu a Chyfryngau Cymdeithasol
Byddem yn datblygu ymgyrchoedd gyda'r bwriad o frwydro yn erbyn stigma wrth ddarparu gwybodaeth glir am y gwasanaethau cymorth sydd ar gael i bobl ifanc.
Byddem yn blaenoriaethu llwyfannau ar-lein fel cyfryngau cymdeithasol lle mae pobl ifanc yn ymgysylltu fwyaf.
Bydd y prototeip hwn hefyd yn hyrwyddo gwaith y 3 phrototeip arall.
Prototeip 2
Hyfforddiant Staff
Dywedodd pobl ifanc eu bod yn teimlo nad oeddent yn cael digon o gefnogaeth gan weithwyr proffesiynol oherwydd diffyg hyfforddiant a defnydd amhriodol o iaith.
I fynd i'r afael â hyn, byddwn yn datblygu pecyn hyfforddi ar y cyd gyda gweithwyr proffesiynol a phobl ifanc.
Bydd y pecyn hwn yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth i weithwyr proffesiynol i gefnogi pobl ifanc sydd yn wynebu amrywiaeth o bryderon yn well .
Prototeip 3
Paneli SPACE
Mae Lles-SPACE yn helpu plant a phobl ifanc ar hyn o bryd yn cydlynu cymorth iechyd meddwl ar draws gwahanol asiantaethau.
Er mai'r bwriad yw cael plant at y cymorth cywir yn sydyn, yn aml nid yw'r bobl ifanc eu hunain yn teimlo'n rhan o'r broses.
Nod y prototeip hwn yw newid hyn wrth rymuso pobl ifanc i gyfeirio eu hunain a chymryd rhan weithredol mewn penderfyniadau am eu gofal a’u triniaeth.
Prototeip 4
Cymorth Cyfoedion
Mae cymorth gan gyfoedion yn creu gofod diogel ar gyfer cyfathrebu agored a chyd-ddealltwriaeth.
Yn wahanol i therapi traddodiadol, mae'n cynnig amgylchedd anfeirniadol lle gall pobl ifanc gysylltu â chyfoedion sy'n wynebu brwydrau tebyg.
Byddem yn treialu rhaglen sy'n defnyddio cymorth cyfoedion, gan ddarparu dewis arall sy'n gyfeillgar i bobl ifanc i'r rhai sydd yn poeni am fynediad i wasanaethau traddodiadol.
Digwyddiad Rhanddeiliaid
Nawr bod y Cynllunwyr Gwasanaeth Cyfoed wedi hen ddechrau datblygu eu prototeipiau ac mae'r partneriaid gwerthuso newydd wedi cychwyn, byddem wrth ein bodd yn eich gweld yn ein cyfarfod rhanddeiliaid nesaf.
Cynhelir y cyfarfod wyneb yn wyneb yng Ngwesty Mercure Casnewydd.
Rydym yn werthfawrogol iawn o'ch presenoldeb, ac yn gwerthfawrogi eich ymdrechion i gymryd rhan.
Dewch i gwrdd â'n
Gwerthuswyr Prosiect
Cwrdd â'n Gwerthuswyr
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Anna Nicholl a Richard Thurston yn rhan o’n bwrdd fel gwerthuswyr prosiect Meddwl Ymlaen Gwent.
Mae ganddynt brofiad yn gweithio ar draws llywodraeth, prifysgolion, ac elusennau, a nawr maent yn dod at ei gilydd i helpu Meddwl Ymlaen Gwent i werthuso prosiectau. Maent yn deall pa mor rhwystredig y gall olrhain effaith fod, felly maent yn benderfynol creu cymorth gwell. Mae eu profiad yn cyd-fynd yn berffaith â phrosiect MYG, ac felly maent yn berffaith i'r gwaith!
Anna Nicholl
Mae Anna yn cynnig arbenigedd ymgynghori ar effaith, strategaeth a pholisi. Mae hi'n defnyddio dulliau arloesol i ddatblygu atebion creadigol sy'n cael effaith ac sy'n gydweithredol.
Gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn sector gwirfoddol a pholisi cyhoeddus Cymru, mae’n deall y dirwedd unigryw. Yn flaenorol, bu Anna yn arwain rhaglen yng Nghymru i wella arferion effaith ar gyfer sefydliadau dielw.
Mae gwaith ymgynghori Anna yn cynnwys cefnogi sefydliadau fel The Wallich ac Oxfam i ddiffinio canlyniadau a gwerthuso.
Mae Anna yn angerddol am gynwysoldeb yn ei gwaith. Cyd-gyflawnodd raglen yn grymuso pobl ifanc anabl i gymryd rhan mewn democratiaeth, a dyluniodd raglen arall ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed ym mholisi’r llywodraeth.
Richard Thurston
Daw Richard â 30 mlynedd o brofiad ymchwil a gwerthuso, gan ennill MBE yn ddiweddar am ei gyfraniadau.
Mae'n arbenigwr ar ddulliau "Beth Sy'n Gweithio" i ymdrin â materion cymdeithasol, ar ôl astudio meysydd fel lleihau troseddau ieuenctid.
Cyn hynny, bu’n gwasanaethu fel Llywydd Cymdeithas Werthuso’r DU ac roedd ganddo rôl ymchwil pwysig yn Llywodraeth Cymru, gan arwain astudiaethau ar blant, addysg, a llesiant ieuenctid.
Mae Richard yn frwd dros gynnwys lleisiau pobl ifanc mewn ymchwil. Mae wedi hwyluso cyfranogiad ieuenctid mewn prosiectau ymchwil ac wedi sicrhau bod eu canfyddiadau wedi cyrraedd llunwyr polisi.
Mae hefyd yn awdur ac yn siaradwr, ac ar hyn o bryd mae'n gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ganolbwyntio ar adeiladu sylfaen gref ar gyfer ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth, yn enwedig o fewn y sector gwirfoddol.
Cylchlythyrau
Eisiau darllen rhai o'n cylchlythyrau blaenorol?
Gorffennaf
July
2023
Cadwch mewn cysylltiad!
Ariannir gan / Funded by
Cyflwynir gan / Delivered by
Partneriaid / Partners