Cefndir y Prosiect
Mae Meddwl Ymlaen Gwent (MYG) yn brosiect wedi ei ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Ei bwrpas yw cynllunio ffyrdd newydd i atal heriau iechyd meddwl rhag datblygu neu waethygu ar draws Gwent.
Ffurfiwyd partneriaeth rhwng ProMo-Cymru a Mind Casnewydd gyda holl wasanaethau ieuenctid a sefydliadau Mind lleol ledled Gwent.
Bwriad y prosiect ydy sicrhau bod pobl ifanc yn cael y gefnogaeth gywir ar yr amser cywir, ble bynnag yr ânt am gymorth.
Byddem yn adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn llwyddiannus yng Ngwent, gan adnabod bylchau yn y gwasanaethau darparir, a chanolbwyntio ar ddatblygu a gwella'r rhain i gefnogi pobl ifanc yn well.
Rydym yn gweithio i fethodoleg cyd-gynllunio gyda phobl ifanc, felly yn fis Ionawr 2023 aethom ati i recriwtio grŵp o ymchwilwyr cyfoed ifanc 16-25 oed, a chreu grŵp Ymchwilwyr Cyfoed Meddwl Ymlaen Gwent.
Erbyn mis Chwefror roedd 10 o bobl ifanc brwdfrydig wedi eu recriwtio o bob ardal awdurdod lleol yng Ngwent a chychwynnodd y gwaith o'u hyfforddi i fod yn ymchwilwyr cyfoed. Roedd yr hyfforddiant yn cynnwys anwythiad fel aelodau o staff cyflogedig, gwybodaeth am gynllunio gwasanaeth (gan ganolbwyntio ar y cyfnod darganfod), dulliau ymchwil, a sut i siarad gyda phobl ifanc am faterion iechyd meddwl.
Ar ôl y Pasg, aethom ati i weithio gyda'r ymchwilwyr cyfoed i gyd-gynhyrchu cynllun am sut y byddem yn casglu data am brofiadau ac anghenion iechyd meddwl pobl ifanc yng Ngwent. Y data yma fydd yn creu'r darganfyddiadau yn ein hadroddiad sydd i ddod.
Sbotolau ar Amanda
Rhannodd un o'r ymchwilwyr cyfoed, Amanda, ei phrofiad yn y cyfnod yma:
Ymchwilio fy nghyfoedion
Er mwyn cael gwell dealltwriaeth o brofiadau gwasanaethau iechyd pobl ifanc yng Ngwent, gofynnom iddynt am eu hadborth mewn sawl ffordd wahanol, o arolygon i grwpiau ffocws. Credir y bydd hyn yn rhoi'r canlyniadau mwyaf cynhwysol bosib ar draws yr ystod oedran (11-25), o bob awdurdod lleol, a phob cefndir.
Yn bersonol roedd yn well gen i gynnal ymchwil trwy gyfweliadau un i un gan y gallaf ofyn y cwestiynau dilynol mwyaf perthnasol er mwyn gallu casglu'r farn a'r profiadau mwyaf manwl.
AMANDA, 17
Ond, rwyf hefyd yn gwerthfawrogi effeithiolrwydd mathau eraill o ymchwil: mae arolygon yn caniatáu i ni gasglu mwy o ymatebion unigol, tra bod grwpiau ffocws yn caniatáu iddynt rannu syniadau â'i gilydd.
Fy nysgu hyd yma
Rwyf wedi dysgu sgiliau gwerthfawr yn ystod y broses yma, ac rwy'n hyderus y byddant yn ddefnyddiol i mi yn y dyfodol. Mewn cyfweliadau mae angen i ni ofyn cwestiynau dilynol perthnasol ar y pryd, ac roedd hyn yn help i mi ymarfer sgiliau meddwl yn feirniadol.
Edrychaf ymlaen at ddadansoddi'r data a chynhyrchu'r adroddiadau, gan ganiatáu i mi ddefnyddio set o sgiliau gwahanol. Rwyf hefyd wedi cael mewnwelediad ar farn fy nghyfoedion yma yng Ngwent pan ddaw at y gwasanaethau iechyd meddwl sydd yn agored iddynt.
Roedd cynnal grwpiau ffocws yn rhoi strwythur sgwrs i mi, sydd yn help i mi deimlo'n fwy hyderus wrth siarad â'm nghyfoedion (yn wahanol i'm mhersonoliaeth ddistaw arferol).
Un peth rwyf wedi dysgu am fy hun yn ystod y profiad yma yw fy mod i'n cyfathrebu'n llawer gwell gydag eraill os ydw i'n cynllunio'r sgwrs o flaen llaw. Byddaf yn sicr o ddefnyddio'r dechneg yma eto yn y dyfodol.
Roeddwn yn teimlo'n falch iawn yn ystod yr ymchwil yma fy mod i wedi cyfrannu i alluogi pobl ifanc yr ardal i rannu barn am wasanaethau iechyd meddwl cyfredol, bod hynny'n brofiadau'r gorffennol neu obeithion am y dyfodol. Rwyf hefyd yn gyffrous iawn i gael cyhoeddi ein darganfyddiadau.
Cyfarfod rhanddeiliaid
Ar ôl casglu ymchwil gan dros 150 o bobl ifanc yng Ngwent, rydym bellach yn dadansoddi'r data ac yn chwilio am themâu amlwg. Rhain fydd yn creu sail ein hadroddiad Darganfod.
Rhannir y darganfyddiadau hyd yma mewn cyfarfod rhanddeiliaid cynhelir ar-lein trwy Zoom.
Bydd eich presenoldeb yn werthfawr iawn yn y cyfnod yma, felly os gwelwch yn dda fedrwch chi wneud pob ymdrech i gymryd rhan.
Dydd Mercher 26 Gorffennaf
11 YB - 1 YP
Cyfarfod â'r Ymchwilwyr Cyfoed
Mae ein tîm o naw ymchwilydd cyfoed yn derbyn cefnogaeth staff
ProMo-Cymru a Mind Casnewydd.
Blaenau Gwent
ELLA
Ella ydw i, 16 o Lyn Ebwy ym Mlaenau Gwent. Roedd gen i ddiddordeb mewn dod yn ymchwilydd cyfoed am fod i'n teimlo bod angen gwella cymorth iechyd meddwl yng Ngwent. Er esiampl, mae yna restrau aros hir iawn a gwahaniaeth mawr yn y lefel o gefnogaeth rwyt ti'n ei dderbyn, yn ddibynnol ar y gweithiwr cefnogol penodir i ti.
Rwyf eisiau bod yn therapydd ar ôl gadael addysg hefyd, felly teimlaf fel bod y profiad yma yn help i mi ddatblygu sgiliau yn y maes yma.
Caerffili
Helo, Lexy ydw i, 23 o Gaerffili. Y rheswm am gymryd rhan yn Meddwl Ymlaen Gwent oedd yr awydd i wneud gwahaniaeth.
Fy uchelgais yw bod yn weithiwr cefnogol fel y gallaf rannu'r hyn rwyf wedi'i ddysgu a helpu gwella bywydau pobl eraill.
Lexy
amanda
rhi
Sir Fynwy
Amanda ydw i, 17 o Sir Fynwy. Ymunais â'r prosiect oherwydd fy niddordeb yn grymuso llais fy nghyfoedion. Mae hwn yn gyfle gwych i mi gael mewnwelediad i gasglu data trwy gyfweliadau a grwpiau ffocws.
Helo, Rhi ydw i, 18 o Sir Fynwy. Rwy'n caru bod yn ymchwilydd cyfoed gan ei fod yn caniatáu i mi ddeall mwy am anghenion pobl eraill ac i helpu pobl ifanc ddeall eu bod nhw'n ddigon. Ymunais â'r prosiect yn wreiddiol am fy mod i eisiau gweithio yn y maes iechyd meddwl, ac roedd y prosiect yma yn ffordd dda i gychwyn fy ngyrfa a dysgu mwy am iechyd meddwl.
Yn ogystal â chael y cyfle i siarad â phobl ifanc a darparu cymorth i eraill, rwy’n ddiolchgar o'r cyfle i weithio ar y cyd â phobl o'r un meddylfryd i siapio dyfodol pobl ifanc Gwent.
Mae bod yn ymchwilydd cyfoed yn fy atgoffa o'r pwysigrwydd i fod yn agored ac yn onest am iechyd meddwl, ac rwyf wedi dysgu pam y gall hyn fod o fudd.
Roedd cynnal grwpiau ffocws llai yn gyfle anhygoel, golygai y gallwn wrando a chefnogi dau berson ifanc, gallwn ddysgu mwy am y materion gall godi o wasanaethau penodol, fel y gallem wella hyn yn y dyfodol.
eli
Eli ydw i, 17 o Sir Fynwy. Y peth cyntaf i ddenu fi i wneud cais am y prosiect oedd y ffocws ar bobl ifanc yn bod wrth galon y broses ymchwil iechyd meddwl. Mae hyn yn bwysig iawn i mi gan fod pobl ifanc yn aml yn teimlo datgysylltiad o'u gofal, felly mae rhoi grym i bobl ifanc i siarad am y gofal derbyniwyd, a'r gwelliannau sydd eu hangen, yn fy ysbrydoli.
Y rhan gorau o'r prosiect hyd yma i mi oedd cael siarad gyda chymaint o bobl ifanc gwydn sydd â chymaint o syniadau da am ddyfodol gwasanaethau iechyd meddwl. Rwyf hefyd wedi mwynhau siarad â'm nghydweithwyr a dod i adnabod pobl ifanc eraill sydd yn angerddol am iechyd meddwl.
Tra bod yn rhan o'r prosiect Meddwl Ymlaen, rwyf wedi datblygu hyder i gael sgyrsiau am iechyd meddwl. Roedd hyn yn anodd iawn cynt.
Casnewydd
Helo, Rachael ydw i, 18 o Gasnewydd. Roeddwn eisiau bod yn ymchwilydd cyfoed Meddwl Ymlaen Gwent gan fod y cyfle yma yn caniatáu i mi wella fy nealltwriaeth o iechyd meddwl a'i effaith ar gymuned Gwent ymhellach, yn ogystal â datblygu sgiliau rhyngbersonol.
Rachael
Helo, Fatma ydw i, 17 o Gasnewydd. Mae iechyd meddwl pobl ifanc yn hanfodol, ac rwyf wedi bod yn gweithio'n galed iawn ar y broblem bwysig yma. Yn ogystal â'r gwaith rwy'n cynnal fel ymchwilydd cyfoed Meddwl Ymlaen Gwent, rwyf hefyd yn edrych ar iechyd meddwl pobl ifanc yng Nghymru ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru.
Fatma
Helo, Mali ydw i! Rwy'n 16 oed ac yn byw yng Nghasnewydd. Teimlais yn gyffrous iawn pan glywais am y prosiect MYG. Rwy'n angerddol iawn am ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc gael rhannu barn a phrofiadau. Mae hyn yn berthnasol iawn yn y maes iechyd meddwl, ble mae'n cenhedlaeth ni yn wynebu problemau newydd, a dim ond ni sydd wir yn gallu deall, er esiampl, byw trwy'r pandemig Covid-19.
Mae fy mhrofiad gyda'r prosiect hyd yma wedi bod yn anhygoel ac yn rymusol iawn. Rwyf wedi gwirioni cael creu perthnasau newydd gydag ymchwilwyr eraill a'r mentoriaid anhygoel sydd wedi bod yn gymaint o gymorth ac yn garedig iawn. Rwyf wedi dysgu cymaint o'r prosiect yma, o ddeall sut i gynnal grwpiau ffocws ar bynciau sensitif gan gadw ffiniau, i sut i ysgrifennu a chyflwyno data. Edrychaf ymlaen at wylio'r prosiect yma yn tyfu dros yr ychydig fisoedd nesaf!
Mali
Torfaen
helen
Helo, Helen ydw i, 17, o Dorfaen. Pan gefais y ffurflen gais am y prosiect yma, gyrrais fy nghais a meddwl dim am y peth. Ond pan gefais gyfweliad a chlywed mwy am y prosiect, roedd gen i ddiddordeb a brwdfrydedd mawr. Bellach rwy'n teimlo'n ffodus iawn ac yn gyffrous am y profiad yma sydd yn cael ei gynnig gan MYG.
Mae'r prosiect yma wedi bod yn agoriad llygaid i'r amgylchiadau, sefyllfaoedd a'r problemau sydd yn wynebu pobl ifanc Gwent gyda'u materion iechyd meddwl. Rwyf wedi ennill sgiliau sydd yn grymuso ac yn newid bywyd, o sgiliau cynnal cyfweliadau ac ymchwil i empatheiddio gydag eraill wrth gadw'n broffesiynol. Rwyf wedi ymarfer cael sgyrsiau anodd gydag eraill a bod yn gyfforddus ac yn hyderus i gael y sgyrsiau yma. Rwyf wedi dysgu cymaint ac yn werthfawrogol o gael bod yn rhan fach o brosiect pwysig iawn.
Diolch yn fawr i Chloe, ein degfed ymchwilydd cyfoed, am ei gwaith caled ar y prosiect. Mae Chloe wedi
gadael y prosiect oherwydd ymrwymiadau eraill, ond rydym yn ddiolchgar iawn am ei chyfraniadau.
Yr hyn rydym
yn gweithio arno
Digwyddiad preswyl
Rydym yn cynllunio preswyl mewn person i'r Ymchwilwyr Cyfoed o 7 - 9 Awst 2023 ym Mae Caerdydd.
Ymgysylltiad Rhanddeiliaid
Cynyddu ein rhwydwaith Rhanddeiliaid a darparu'r wybodaeth berthnasol i chi.
Adrodd
Dadansoddi data ac ysgrifennu Adroddiad Darganfod ar gyfer Blwyddyn 1 y prosiect.
Cymorth Ymchwilwyr Cyfoed
Cynnal sesiynau wythnosol gyda'r Ymchwilwyr Cyfoed
i'w cefnogi yn eu swydd,
gan gynnwys cyfarfodydd mentoriaid.