Yn y cylchlythyr yma:
Digwyddiad Preswyl
Clywed gan ein hymchwilwyr cyfoed am y digwyddiad preswyl Darganfod
Adroddiad
Ymchwiliwyd iechyd meddwl pobl ifanc yng Ngwent, a chasglu'r 7 prif fewnwelediad.
Rhanddeiliaid
Crynhoad o'r digwyddiad Rhanddeiliaid. Gwybodaeth am beth sydd ei angen gennych chi.
Digwyddiad Preswyl Darganfod
Rhwng 7-9fed Awst 2023, cyfarfodd yr ymchwilwyr cyfoed â staff MYG yng Ngwersyll yr Urdd ym Mae Caerdydd.
Cynhaliwyd y preswyl ar ddiwedd cyfnod Darganfod y prosiect, wrth i ni symud i'r cyfnod Diffinio.
Hyd yma, roedd yr ymchwilwyr cyfoed wedi casglu data gan 203 o bobl ifanc 11-27 ledled Gwent er mwyn deall agweddau, teimladau a phrofiadau pobl ifanc yn well pan ddaw at wasanaethau iechyd meddwl.
Nod y preswyl oedd edrych ar y darganfyddiadau a thynnu prif fewnwelediadau o'r ymchwil.
Bydd y mewnwelediadau yma, yn y pendraw, yn ein helpu i gynllunio ffyrdd newydd i atal iechyd meddwl pobl ifanc rhag gwaethygu.
Cawsom gyfle hefyd i ddod at ein gilydd fel tîm i gymdeithasu heb bwysau arholiadau a gwaith cwrs.
Cafwyd sesiwn ysgrifennu cân wedi'i arwain gan RecRock, ble bu'r ymchwilwyr cyfoed yn ysgrifennu, perfformio ac yn recordio cân am iechyd meddwl.
Mae'r fideo isod, a ffilmiwyd yn y preswyl, yn cynnig trosolwg o'r prosiect hyd yma, yn ogystal â gwybodaeth am yr adroddiad a sut fath o broses oedd hyn i'r ymchwilwyr cyfoed.
Ymchwil Darganfod ar Brofiadau Pobl Ifanc o Gymorth Iechyd Meddwl yng Ngwent
Cychwynnodd y prosiect Meddwl Ymlaen Gwent gyda darn o ymchwil Darganfod. Roeddem yn awyddus i ddeall anghenion pobl ifanc Gwent yn well a chael dealltwriaeth well o'r dirwedd cymorth yn yr ardal.
Yn y pendraw, rydym eisiau cynllunio ffyrdd newydd i atal heriau iechyd meddwl rhag datblygu neu waethygu yng Ngwent ac i sicrhau bod pobl ifanc yn cael y cymorth cywir ar yr adeg gywir, ble bynnag yr ânt am help.
Cyflogwyd grŵp o 10 ymchwilydd cyfoed o Went i helpu gyda'r ymchwil. Roedd yr ymchwilwyr cyfoed yn cynrychioli pob un o'r pum ardal awdurdod lleol yng Ngwent: Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Torfaen.
Bydd yr ymchwil a'r darganfyddiadau Darganfod yn ein helpu i adnabod y prif feysydd sydd angen gwella mae angen i’r prosiect ganolbwyntio arnynt wrth symud ymlaen. Ar ôl penderfynu ar yr angen blaenoriaethol, byddem yn datblygu syniadau ac yn dechrau profi'r rhain. Byddem yn dysgu o'r profion, yn mwyhau'r syniadau, ac yn cyflwyno'r datrysiadau.
Prif Fewnwelediadau
Mae angen i staff fod yn ddibynadwy, yn gyfeillgar a’u bod yn deall wrth gynnal proffesiynoldeb
Mae angen i wasanaethau fod yn hyblyg ac yn hygyrch i bawb
Mae yna ddiffyg gwybodaeth ymysg pobl ifanc am y gwasanaethau iechyd meddwl sydd yn agored iddynt yng Ngwent
Mae angen cysondeb ar bobl ifanc, yn enwedig wrth drosglwyddo o fewn, a rhwng, gwasanaethau
Mae profiadau negyddol o wasanaethau yn creu rhwystr i bobl ifanc wrth chwilio am, a chael mynediad i, gymorth
Mae ofni stigma yn cael effaith ar barodrwydd person ifanc i ofyn am gymorth
Mae pobl ifanc angen y cymorth cywir ar yr adeg gywir
Cyfranogiad Rhanddeiliaid
Ar 6 Tachwedd 2023, cynhaliwyd digwyddiad rhanddeiliaid yn Mercure Casnewydd. Roedd yn gyfle i'r rhanddeiliaid glywed gan 5 o'n hymchwilwyr cyfoed, a roddodd gyflwyniad gwych ar sut yr aethant ati i gynnal yr ymchwil iechyd meddwl gyda dros 200 o bobl ifanc Gwent. Rhannwyd y 7 prif fewnwelediad o'r darganfyddiadau hefyd.
Yna cafwyd trafodaeth am y mewnwelediadau pwysicaf i ganolbwyntio arnynt dros y 4 mlynedd a dechrau meddwl am syniadau am y dull orau i ddarganfod datrysiadau i fynd i'r afael â'r heriau yma.
Byddem yn cynnal yr un drafodaeth gyda phobl ifanc yng Ngwent yn y mis nesaf felly gallem ystyried eu syniadau nhw ochr yn ochr â'r hyn sydd wedi ei gasglu gan y gweithwyr proffesiynol.
Fedrwch chi helpu?
Er mwyn helpu ni i symud ymlaen gyda'r prosiect, rydym angen
eich cymorth. Gallech chi:
Ddarllen yr adroddiad
Gwrandewch ar leisiau 203
o bobl ifanc ledled Gwent.
Rhannu'r adroddiad
Rhannwch yr adroddiad darganfod gyda'ch
cyd-weithwyr a gyda’ch rhwydwaith ehangach.
Os yw cyd-weithiwr wedi rhannu hwn gyda chi yna beth am gofrestru i'n cylchlythyr?
E-bostiwch i ddweud yr hoffech dderbyn y diweddariadau yma.
Cymryd rhan
Oes gennych chi syniad am sut y gallem weithio â'n gilydd? Os hoffai'ch gwasanaeth neu sefydliad gymryd mwy o ran weithgar yn y prosiect MYG yna cysylltwch.
Cofrestru i'r cylchlythyr